Mae yna un peth yn gyffredin rhwng argyfwng gwaith y dyddiau yma ac argyfwng dechrau’r pandemig flwyddyn a hanner yn ôl.

Yn y ddau achos, doedd y llywodraeth yn San Steffan ddim wedi paratoi ac, o ganlyniad, mi afaelon nhw mewn ‘atebion’ cyfleus a pheryglus.

Ddechrau 2021, fel y mae adroddiad y ddau bwyllgor seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin yn awgrymu, mi drodd Borsi Johnson a’i griw – dan arweiniad gwyddonwyr – at y syniad o imiwnedd torfol rhag y feirws Corona.