Mae dynes o Shanghai wedi bod yn rhoi gwersi siarad Cymraeg ar fersiwn China o YouTube, gan ddenu dau gant o ddilynwyr.
Yn ogystal â charu ieithoedd, mae YuQi Tang yn hoffi roc metel trwm a bocsio Thai, ac wedi rhoi enw Cymraeg iddi hi ei hun.
Symudodd i Gymru gyda’i gŵr ddwy flynedd yn ôl a dechrau dysgu Cymraeg drwy ddefnyddio Duolingo, y wefan a’r app sy’n cynnig dros gant o gyrsiau dysgu ieithoedd i filiynau o bobol ledled y byd.
Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf aeth YuQi Tang yn ei blaen i fynychu cwrs Dysgu Cymraeg Gwent a chael gwell gafael ar y Gymraeg gyda chymorth hen-fodryb i’w gŵr.
Wrth sylweddoli bod prinder deunydd Cymraeg a Chymreig ar Bili Bili, fersiwn China o YouTube, penderfynodd fynd ati i lenwi’r bwlch gan ddysgu ychydig o Gymraeg a rhannu diwylliant Cymru â’i dilynwyr.
Ar hyn o bryd, mae YuQi Tang, sydd newydd ddechrau ar swydd yn diwtor dysgu Tsieinëeg ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Scott.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod naw mlynedd yn ôl, pan oedd e’n gweithio yn athro Saesneg yn yr un ganolfan iaith â YuQi Tang yn Shanghai.
“Mae Cymru yn wahanol iawn o gymharu â Shanghai. Dw i ddim yn cymharu Cymru gyda China oherwydd mae China yn wlad fawr, fawr iawn, iawn,” eglura YuQi Tang, sydd wedi rhoi enw Cymraeg iddi hi ei hun – ‘Morwenna’.
Ac mae hi wrth ei bodd yn byw yma.
“Yng Nghymru, dw i’n gallu gwneud llawer o bethau yn yr awyr agored… mynd am dro yn y fforest, padlo ar y môr, seiclo o gwmpas y castell.
“Mae’n arbennig iawn byw yng Nghymru.”
Clywodd YuQi Tang y Gymraeg am y tro cyntaf cyn dod yma i fyw.
“Cyn i fi symud i Gymru, dw i’n cofio un flwyddyn dros yr haf es i i Amgueddfa Sain Ffagan gyda fy ngŵr.
“Dyma’r tro cyntaf i fi glywed fy ngŵr yn siarad Cymraeg gyda rhywun oedd yn gweithio tu ôl i’r cownter.
“Cyn hynny, doedd dim syniad gyda fi o gwbl am fodolaeth yr iaith, na bod fy ngŵr yn siarad Cymraeg!
“Dw i’n meddwl bod y Gymraeg yn wahanol iawn, yn brydferth iawn, felly penderfynais i ddysgu Cymraeg fel her ar Duolingo.
“Wedyn, sawl mis yn ddiweddarach, daeth y coronafeirws… Mae hen fodryb gyda fy ngŵr – mae hi’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, felly penderfynais ddarllen nofel T. Llew Jones gyda hi bob bore, dim ond awr, i gefnogi’n gilydd trwy’r cyfnod clo.
“Gorffennais i nofel T Llew Jones o’r enw Un Noson Dywyll, a symudais ymlaen i nofel arall o’r enw Dirgelwch yr Ogof.
“Dw i’n meddwl fy mod i wedi magu llawer o hyder drwy ddarllen nofelau Cymraeg bob dydd, yn arbennig [hyder yn] fy ynganiad.”
Fis Medi diwethaf, dechreuodd YuQi Tang gael gwersi Cymraeg gan Goleg Gwent gan basio’r Lefel Ganolradd a mynd ymlaen i sefyll arholiad llafar a chael rhagoriaeth.
A hithau’n siarad pum iaith – Cymraeg, Saesneg, Tsieinëeg, Shanghaieg a Ffrangeg – mae hi’n dweud bod tebygrwydd bach rhwng y Gymraeg a Tsieinëeg.
“Shanghaieg yw fy iaith gyntaf, dw i’n siarad hi gyda mam a dad yn y cartref,” meddai, gan esbonio ei bod hi wedi dysgu Tsieinëeg yn yr ysgol.
Gan nad yw YouTube na Google ar gael yn China, mae hi’n anodd dod o hyd i blatfformau digidol er mwyn dysgu ieithoedd yno, meddai YuQi Tang.
“Un diwrnod, chwiliais i ar Bili Bili, sy’n sianel fel YouTube yn China – ffeindiais i ddim ond un fideo yn Gymraeg.
“Felly penderfynais ddangos i bobol sut mae dweud ‘bore da’ a ‘prynhawn da’ yn gywir.
“Wedyn [meddyliais]: Wrth gwrs bod yr iaith yn ddiddorol iawn, ond bysa hi’n fwy diddorol rhannu gwybodaeth am ddiwylliant Cymru gyda phobol yn China.
“Felly dechreuais i wneud fideo am enw cyflawn Llanfairpwll, wedyn sut i wneud cacennau cri, sut i ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, pwy yw Dewi Sant a pham mae pobol yng Nghymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ac am y llwybr arfordirol, achos fel arfer roeddwn i’n mynd am dro ar hyd y llwybr arfordirol pan roeddwn i’n byw yng Nghei Newydd.
“Gobeithio bydd y bobol yn dod i Gymru i gerdded y llwybr yn y dyfodol!
“Dechreuais i ddarllen y Mabinogi hefyd, felly ar hyn o bryd dw i’n rhannu stori’r pedair cainc.”
Wrth ei gwaith gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, mae hi’n dysgu Tsieinëeg i blant mewn ysgolion yng Nghymru.
Ond, mae hi’n gweithio ar brosiect ar hyn o bryd i gynnig gwersi Tsieinëeg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dw i’n meddwl, os bydd y prosiect yn llwyddiannus, mai hwn fydd y wers gyntaf yn y byd i ddysgu Tsieinëeg drwy’r Gymraeg.”
Yn Shanghai, roedd YuQi Tang yn athrawes Saesneg mewn ysgol ryngwladol.
“Roeddwn i’n gweithio fel athrawes yn galed iawn,” meddai.
“Roedd yn rhaid i fi weithio trwy’r dydd, ac yn y nos hefyd, achos mae’r plant yn China yn astudio yn galed iawn!
“Ar ôl sawl blwyddyn yn China, penderfynais wneud pethau hollol wahanol am sawl mis.”
Aeth i Wlad Thai am bedwar mis, lle y dysgodd sut i wneud bocsio Thai, sef math o grefft ymladd (martial arts).
Pan nad ydi hi’n dysgu eraill am Gymru neu’n ymarfer bocsio Thai, mae YuQi Tang yn hoff o ddarllen nofelau am wahanol ddiwylliannau a gwrando ar gerddoriaeth metel trwm – “dipyn o amrywiaeth”, meddai.
- Mae cyrsiau dysgu Cymraeg yn cychwyn fis yma – am fwy o wybodaeth ewch i cymru