Diolch o galon i Gwyn Hopkins am y llythyr diddorol dros ben [Golwg 26.08.21] yn cymharu profiad Malta i ymdrech Cymru dros annibyniaeth. Fel merch o Ynys Malta sy’n byw yng Nghymru erbyn hyn, dw i’n cytuno bod Malta wedi ffynnu’n economaidd ers i ni ddod yn annibynnol ym 1964. Ond er fy mod i mor falch bod Malta’n annibynnol erbyn hyn, dydy’r llwybr ddim wedi bod yn un hawdd.