Rhoddodd Rhiannon Boyle y gorau i’w swydd yn athrawes tua saith mlynedd yn ôl er mwyn canolbwyntio ar sgrifennu’n llawn amser.

Ers hynny, mae’r fam 43 oed o Fôn wedi sgrifennu ar gyfer amryw gyfresi teledu, gan gynnwys Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, a dramâu a sioeau ar gyfer y radio a’r theatr.