Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon yr wythnos?

gan Elin Wyn Owen

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio?

Cwestiwn 1
BBC/Studio Lambert

Diolch i'r gyfres deledu The Traitors, faint o gynnydd fu yn nifer y bobol sy’n chwilota ar-lein am ‘ddysgu Cymraeg’?


Cwestiwn 2

Pa actor Cymreig sydd wedi cyhoeddi y bydd yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd?


Cwestiwn 3

Fe fu'r canwr Ed Sheeran yn ymweld â phobol ifanc Caerdydd i hybu addysg gerddoriaeth yr wythnos hon. Beth oedd enw ei albwm cyntaf yn 2011?


Cwestiwn 4
Llywodraeth Cymru

Gallai Aelodau'r Senedd gael codiad cyflog o dan gynigion newydd gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher. Faint o godiad allen nhw ei gael?


Cwestiwn 5

Pa gyngor sydd wedi cyhoeddi bod gwybodaeth am eu gwasanaethau bellach ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain?


Cwestiwn 6

"Ceir fandaliaeth o'r math yma'n ddyddiol". Un o wirfoddolwyr pa wefan ddywedodd hyn wrth golwg360 yr wythnos hon ar ôl i rywrai fod yn cyhoeddi erthyglau mewn ieithoedd tramor?