Cwis Mawr Gŵyl y Banc

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Roedd S4C wedi gweld 'twf sylweddol' yn nifer yr oriau gwylio a chyrhaeddiad eu cynnwys dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Beth oedd cyrhaeddiad holl raglenni’r Eisteddfod ar deledu yng Nghymru eleni?


Cwestiwn 2

Bu farw’r cerddor, actor a digrifwr amryddawn Dewi ‘Pws’ Morris yr wythnos hon. Roedd wedi chwarae rhan Glyn ym mha ffilm boblogaidd o’r 1970au?


Cwestiwn 3

Bydd y DJ Katy Harriz o Gaerffili yn agor sioe pa gantores ym Mae Caerdydd heno (nos Sadwrn, Awst 24)?


Cwestiwn 4
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r gwaith cynhyrchu wedi dechrau yn y gogledd ar Madfabulous - ffilm am Bumed Marcwis Môn. Beth oedd enw’r Marcwis? 


Cwestiwn 5
castell tywod

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu codi tâl ar ymwelwyr i barcio eu ceir ar hyd rhan o draeth poblogaidd yn y gogledd. Pa draeth sydd dan sylw?


Cwestiwn 6

Yr wythnos hon cafodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney eu heclo yn ystod digwyddiad mewn gŵyl lyfrau. Beth oedd enw’r ŵyl?