Mae dau feiciwr ifanc o Gymru wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau Beicio Ffordd y Byd yn Awstralia.

Daeth Joshua Tarling o Ffos y Ffin ger Aberaeron i’r brig yn ras yn erbyn y cloc y dynion yn adran iau’r bencampwriaeth yn Woolongong.

Zoe Backstedt, 17 oed, o Bont-y-clun ddaeth i’r brig yn ras yn y erbyn y cloc y menywod yn yr adran iau, gan orffen dros funud a hanner yn gynt na Justyna Czapla o’r Almaen, a ddaeth yn ail.

Enillodd y ddau fedalau arian yn y bencampwriaeth y llynedd.

‘Gyrfa ddisglair’

Llwyddodd Joshua Tarling, 18 oed, i drechu’r cyn-bencampwr Hamish McKenzie o Awstralia eleni, gan orffen 19 eiliad o’i flaen.

Wrth ei longyfarch, dywedodd ei gyn-brifathro yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ei bod hi’n amlwg bod yr holl waith caled dros y blynyddoedd yn talu ei ffordd.

“Rydyn ni fel ysgol yn dymuno llongyfarch Josh ar ei lwyddiant, ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddo fe ar gyfer gyrfa ddisglair ar y beic,” meddai Mr Owain Jones wrth golwg360.

“Rydyn ni’n falch iawn ohono fe, fuodd e’n ddisgybl hyfryd, hynaws yn yr ysgol ac roedd e’n un oedd yn gallu ffeindio’r cydbwysedd yna rhwng gwaith ysgol a hyfforddi yn hynod, hynod galed ar y beic.”

‘Ysbrydoli’

Fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Aberaeron, dywedodd y brifathrawes Mrs Anwen Lloyd Hughes eu bod nhw’n edrych ymlaen at ei groesawu’n ôl i sgwrsio gyda’r plant am ei lwyddiant.

“Rydyn yn falch iawn o lwyddiant Joshua dros y penwythnos yn Awstralia,” meddai.

“Mae ei yrfa yn parhau i fynd o nerth i nerth. Wrth reswm, rydyn yn cadw llygad barcud ar yrfaoedd seiclo Josh a’i frawd Finlay – y ddau yn gyn-ddisgyblion o Ysgol Gynradd Aberaeron.

“Mae’r llwyddiant diweddaraf yn brawf o’i ymroddiad a’i angerdd.

“Mae perfformiad y brodyr Tarling wedi ysbrydoli plant yr ysgol heb os – mae nifer o blant yr ysgol yn seiclo yn eu hamser hamdden a chynhelir clwb seiclo llwyddiannus a phoblogaidd dros ben yn wythnosol yn Aberaeron erbyn hyn.

“Edrychwn ymlaen at groesawu Joshua i’r ysgol pan fydd cyfle ganddo i ymuno gyda ni i sgwrsio gyda’r plant – ond mae gen i deimlad y byddwn yn aros am gryn amser wrth i’w ddyddiadur lenwi yn sgil ei lwyddiannau.

“Dymunwn bob hwyl iddo yn ei gystadleuaeth nesaf.”

‘Cofio am weddill fy mywyd’

Wrth ymateb i’w llwyddiant, dywedodd Zoe Backstedt, ei fod yn ddiwrnod y bydd hi’n ei gofio am weddill ei bywyd.

“Diolch i bawb am y gefnogaeth ar y cwrs, adre, neu o le bynnag yn y byd a’r holl staff yma am wneud hyn yn bosib.”

Zoe Backstedt. Llun gan Beicio Cymru