Rodney Parade
Heno mi fydd y Dreigiau yn croesawu’r London Wasps i Rodney Parade.

Yn anffodus, ni fydd y Dreigiau yn camu ’mlaen yng nhgystadleuaeth Cwpan Amlin a dyma fydd diwedd y daith iddyn nhw.

Dim ond y Capten Lewis Evans sydd wedi cadw ei le yn y blaenwyr ar ol colli i Bayonne y penwythnos diwethaf.

Bydd Dan Evans yn dychwelyd i’r tîm wedi gwella o’i anaf i’w bigwrn yn safle’r maswr.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Tom Prydie, Will Harries, Adam Hughes, Ashley Smith, Mike Poole, Dan Evans a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Toby Faletau, Nic Cudd, Lewis Evans (Capten), Rob Sidoli, Andrew Coombs, Dan Way, Sam Parry a Phil Price.

Eilyddion – Hugh Gustafson, Owen Evans, Nathan Buck, Ian Nimmo, Ieuan Jones, Wayne Evans, Steffan Jones a Jack Dixon.