Y tro diwethaf i Gymru fod yn ffefrynnau’r bwcis i guro Lloegr yn Twickenham roedd Streic y Glowyr newydd ddechrau, roedd Bananarama, Lionel Richie a Culture Club ar frig y siartiau, ac roedd Margaret Thatcher yn mwynhau mwyafrif mawr yn San Steffan ar ôl ennill yr Etholiad Cyffredinol.
Lloegr sydd wedi ennill 12 o’r 13 gêm diwethaf yn erbyn Cymru yn Twickenham. Ond er gwaetha’r record sâl Cymru yw’r ffefrynnau ar ods o 4/6 yn dilyn cychwyn cryf i’r Bencampwriaeth. Mae Lloegr hefyd wedi ennill eu dwy gêm gynta’, ond heb greu llawer o geisiau ac heb argyhoeddi.
“Nid yn aml mae Lloegr yn outsiders yn Twickenham, ond mae’r arian i gyd wedi bod ar Gymru a dw i ddim yn gweld hynna’n newid,” meddai llefarydd ar ran William Hill.
Calondid i dîm Cymru yw eu bod nhw wedi ennill y gêm yn 1984 pan oedden nhw’n ffefrynnau clir i ennill. Lloegr gafodd y gorau o’r hanner cyntaf bryd hynny, ond Cymru a drechodd diolch i 20 pwynt o droed Malcolm Dacey.