Scarlets 34–20 Treviso
Brwydrodd Y Scarlets yn ôl wedi bod ar ei hôl hi ar hanner amser i guro Treviso ar Barc y Scarlets nos Iau. Roedd cais yr un gan y ddau Liam, Williams a Davies, yn yr ail hanner yn ddigon i achub buddugoliaeth a chipio pwynt bonws i Fois y Sosban yn y RaboDirect Pro12.
Hanner Cyntaf
Roedd yr Eidalwyr ar y blaen o 14-0 ar ôl saith munud agoriadol llawn cynwrf. Sgoriodd y cefnwr, Ludovico Nitoglia wedi dim ond tri munud cyn i’r clo, Valerio Bernabo, daro cic Aled Thomas i lawr i sgorio’r ail bedwar munud yn ddiweddarach. Llwyddodd y maswr, Willem de Waal gyda’r ddau drosiad i roi mynydd i’r Scarlets i’w ddringo wedi llai na deg munud o’r gêm.
Ond yn ôl y daeth y tîm cartref yn chwarter awr olaf yr hanner cyntaf a dim ond tri phwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm erbyn yr egwyl.
Sgoriodd Josh Turnbull gais agoriadol y Scarlets wedi 28 munud yn dilyn pas dda Emyr Phillips ac ychwanegodd y prop, Decon Manu, yr ail dri munud cyn y chwiban hanner pan blymiodd dros y gwyngalch.
Ychwanegodd Thomas y ddau drosiad i unioni’r sgôr ond yr Eidalwyr a gafodd y gair olaf am yr hanner pan giciodd de Waal gic gosb hwyr i roi tri phwynt o fantais i’r ymwelwyr.
Ail Hanner
Roedd y Cymry ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wedi chwarter awr o’r ail hanner diolch i gais Liam Williams. Gwnaeth y cefnwr yn dda i dorri dwy dacl er mwyn rhedeg dros y llinell gais o ddeg medr. 21-17 i’r tîm cartref yn dilyn trosiad Thomas.
Ymestynnodd Thomas y fantais i saith pwynt toc wedi’r awr gyda chic gosb ond roedd y bwlch yn ôl i bedwar wedi 69 munud diolch i dri phwynt o droed de Waal.
Roedd diweddglo anghyfforddus yn wynebu’r Scarlets felly ond adferodd Thomas y saith pwynt o fantais gyda chic gosb arall o fewn dau funud cyn i’r eilydd o fewnwr, Liam Davies, sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r pedwerydd cais bedwar munud o’r diwedd. Cododd y bêl o fôn y ryc cyn ffug basio a bylchu i sgorio a sicrhau pwynt bonws i’r tîm cartref.
Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws hwnnw yn codi’r Scarlets dros Ulster a’r Gleision i’r pumed safle yn nhabl y RaboDirect Pro12.
Roedd prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn cydnabod ei bod hi wedi bod yn gêm anodd iawn ond roedd yn hapus iawn gyda’r canlyniad yn y diwedd:
“’Odd rhaid i ni ennill heno ac roedden ni moyn pwynt bonws hefyd. ’Na beth rydyn ni wedi’i wneud, Roedd hi yn galed, roedd y tywydd yn wael, ond yn y diwedd fe waraeon ni’r tywydd yn dda.”