Ben Morgan
Cyhoeddodd hyfforddwr Lloegr Stuart Lancaster ei dîm i gwrdd â Chymru ddydd Sadwrn, gyda’r canolwr pwerus Manu Tuilagi ac wythwr y Sgarlets Ben Morgan yn y pymtheg i ddechrau.
Dyma fydd y tro i Morgan ddechrau gêm dros ei wlad, a bydd e’n hen gyfarwydd â llawer o chwaraewyr Cymru gan ei fod e wedi bod yn chwarae i dimau Cymreig ers ei fod yn ddeunaw oed.
Mae Owen Farrell, mab un o hyfforddwyr Lloegr, Andy Farrell, yn symud i safle’r maswr i gymryd lle Charlie Hodgson. Dyma’r tîm llawn:
15 Ben Foden, 14 Chris Ashton, 13 Manusamoa Tuilagi, 12 Brad Barritt, 11 David Strettle, 10 Owen Farrell, 9 Lee Dickson, 1 Alex Corbisiero, 2 Dylan Hartley, 3 Dan Cole, 4 Mouritz Botha, 5 Geoff Parling, 6 Tom Croft, 7 Chris Robshaw(capten), 8 Ben Morgan
Eilyddion: 16 Rob Webber, 17 Matt Stevens, 18 Courtney Lawes, 19 Phil Dowson, 20 Ben Youngs, 21 Toby Flood, 22 Mike Brown