Gweilch 25–21 Dreigiau

Y Gweilch a oedd yn fuddugol yn y gêm rhwng y ddau ranbarth o Gymru yng Nghwpan yr LV nos Wener. Chwaraewyd y gêm yng Nghae’r Bragdy a chafodd y Gweilch eu gwobrwyo am ymestyn eu hadenydd gyda thorf dda ym Mhenybont.

Dewisodd y ddau ranbarth dîm di brofiad yn absenoldeb y chwaraewyr rhyngwladol ond cafwyd ambell gais digon taclus wrth i’r chwaraewyr ifanc geisio chwarae rygbi agored. Ond roedd camgymeriadau yn britho’r gêm hefyd yn enwedig yn yr ail hanner ac ychydig iawn o adloniant a gafwyd rhwng y ceisiau.

Hanner Cyntaf

Methodd Matthew Morgan gyda chynnig cynnar at y pyst i’r Gweilch ond doedd dim rhaid iddynt aros yn hir am y pwyntiau cyntaf. Daeth rheiny wedi pedwar munud pan groesodd Ross Jones yn y gornel dde. Rhedodd y cefnwr yn dda ar yr asgell cyn ochr gamu amddiffynnwr y Dreigiau a chroei’r llinell. Llwyddodd Morgan gyda’r trosiad i roi mantais gynnar o saith pwynt i’r Gweilch.

Roedd y fantais honno wedi ei lleihau i un pwynt ar ôl deg munud yn dilyn dwy gic gosb lwyddiannus gan faswr y Dreigiau, Steffan Jones.

Ond ymestynodd y Gweilch eu mantais drachefn bum munud yn ddiweddarach gydag ail gais y gêm a chais da iawn ydoedd hefyd. Bylchodd Sonny Parker yn gryf trwy’r canol cyn dadlwytho i Hanno Dirksen a oedd yn cefnogi’n dda. Croesodd yr agellwr a throsodd Morgan y ddau bwynt ychwanegol i’w gwneud hi’n 14-6 i’r  tîm cartref.

Roedd y Dreigiau yn ôl o fewn sgôr eto wedi 24 munud diolch i gais Pat Leech. Lledodd olwyr y Dreigiau’r bêl yn dda cyn i’r agellwr dirio yn y gornel chwith er gwaethaf tacl uchel Dirksen arno. Tarodd trosiad Jones yn erbyn y pyst ond roedd y Dreigiau yn ôl y gêm, 14-11 i’r Gweilch gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf ar ôl.

Ac roedd yr ymwelwyr yn gyfartal ar yr egwyl diolch i gic gosb arall o droed Steffan Jones. Llwyddodd y maswr gyda chic dda o bellter ddeg munud cyn yr egwyl.

Ail Hanner

Sicrhaodd y Gweilch bwynt bonws gyda dau gais yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner. Daeth y cyntaf o’r rheiny i Eli Walker wedi 49 munud. Gwnaeth yr asgellwr yn dda i orffen o ddeg medr ond rhaid dweud fod amddiffyn y Dreigiau braidd yn siomedig.

Ac roedd hynny’n wir hefyd chwe munud yn ddiweddarach pan gafodd y canolwr, Stefan Watermeyer, rwydd hynt i redeg o’r llinell hanner heb ei gyffwrdd i sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf i’r rhanbarth.

Llwyddodd Morgan gyda’r trosiad cyntaf cyn methu gyda’r ail ond roedd gan y Gweilch fantais iach o 12 pwynt gydag ychydig dros chwarter y gêm ar ôl.

Bu rhaid i’r Gweilch chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Chauncey o’Toole gael ei anfon i’r gell gosb am drosedd yn ardal y dacl. Ond methu a manteisio a wnaeth y Dreigiau wrth i safon y gêm ddirywio yn yr hanner awr olaf.

Roedd cais hwyr i’r ymwelwyr serch hynny wrth i’r eilydd, Luke Williams, groesi yn y gornel. Ychwanegodd Lewis Robling y ddau bwynt ychwanegol wrth iddi orffen yn 25-21 o blaid y Gweilch. Pwynt bonws i’r Dreigiau hefyd felly ar ddiwedd gêm braidd yn siomedig.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r trydydd safle yng ngrŵp 1 tra mae’r Dreigiau yn aros yn nhrydydd safle grŵp 4.