Mae hyfforddwr llwyddiannus Seland Newydd wedi datgan fod ganddo ddiddordeb cymryd swydd gydag undeb rygbi Lloegr, yr RFU.

Fe gyhoeddodd y Kiwi cyn cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd y byddai yn gadael ei swydd yn hyfforddwr y Crysau Duon.

Llai nag wythnos wedi ennill y cwpan mae Henry wedi awgrymu y bydd yn cymryd swydd newydd yn hytrcah nag ymddeol.

Er bod hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, o dan bwysau wedi perfformiad siomedig y Saeson yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, nid yw Graham Henry yn edrych am swydd arall yn brif hyfforddwr.

“Byddwn i wrth fy modd yn gweithio mewn rôl sydd yn datblygu hyfforddwyr, datblygu chwaraewyr, datblygu  amgylchedd a datblygu diwylliant o fewn grŵp o bobl,” meddai wrth bapur newydd y Telegraph.

Ar hyn o bryd mae cyn-faswr Lloegr, Rob Andrews, yn Gyfarwyddwr Rygbi Proffesiynol yr RFU ac mae’n bosib mae rôl debyg fyddai o ddiddordeb i Graham Henry.

Wedi hyfforddi tîm cenedlaethol Cymru rhwng 1998 a 2002 fe ddychwelodd Graham Henry i Seland Newydd i hyfforddi Auckland cyn derbyn swydd yn brif hyfforddwr y wlad.

Cafodd ei benodi yn brif hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2001 cyn hyfforddi’r Crysau Duon eu herbyn yn 2005.