Caeredin 14–6 Gleision
Colli fu hanes y Gleision wrth iddynt deithio i Murrayfield i herio Caeredin yn y Guinness Pro14 nos Wener.
George Taylor a sgoriodd unig gais y gêm wrth i’r Albanwyr aros ar frig adran B.
Er i’r Gleision fynd ar y blaen wedi deg munud gyda chic gosb Jason Tovey, fe aeth pethau o chwith i’r ymwelwyr yn syth o’r ail ddechrau. Cafodd cic Dan Fish ei tharo i lawr gan Taylor ac adlamodd y bêl yn garedig i ganolwr Caeredin i sgorio’r cais.
Er i Simon Hickey fethu’r trosiad, fe lwyddodd gyda chic gosb i ymestyn y fantais i bum pwynt yn hwyrach yn yr hanner.
Ond dau bwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm wrth droi diolch i gic olaf yr hanner, ail gic gosb Tovey.
Ar noson wlyb ac oer ym mhrifddinas yr Alban, dwy gic gosb yn unig a ychwanegwyd at y sgôr yn yr ail hanner.
Ymestynnodd Hickey fantais Caeredin i bum pwynt gyda’r cyntaf cyn amddifadu’r Gleision o hyd yn oed bwynt bonws gyda’r ail ym munud olaf y gêm.
Mae’r canlyniad yn cadw Caeredin ar frig adran B y Pro14 ac yn gadael y Gleision yn bumed.
.
Caeredin
Cais: George Taylor 12
Ciciau Cosb: Simon Hickey 32’, 73’, 79’
.
Gleision
Ciciau Cosb: Jason Tovey 11’, 40’