Scarlets 46–5 Bayonne

Croesodd y Scarlets am chwe chais mewn buddugoliaeth swmpus gartref yn erbyn Bayonne yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn.

Roedd angen pwyntiau llawn ar Fois y Sosban i gadw o fewn cyrraedd Toulon yng ngrŵp 2 a dyna’n union a gafwyd diolch i berfformiad ail hanner safonol ar Barc y Scarlets.

Chwe munud yn unig a oedd ar y cloc pan sgoriodd y Scarlets gais cyntaf y noson, Ryan Conbeer yn gorffen yn dda yn y gornel dde ar ôl cwrso cic ddeallus Steff Hughes.

Methodd Leigh Halfpenny y trosiad o’r ystlys ond llwyddodd y cefnwr gyda dwy gic gosb yn hwyrach yn yr hanner i ymestyn mantais ei dîm i un pwynt ar ddeg.

Er i Bayonne orffen yr hanner cyntaf yn gryf, fe ddaliodd Bois y Sosban eu gafael ar y fantais honno tan yr egwyl.

Roedd y tîm cartref yn llawer gwell yn yr ail hanner, gan ddechrau gyda chais i Ryan Elias o sgarmes symudol effeithiol.

Dechreuodd yr olwyr chwarae rygbi hyderus wedi hynny ac arweiniodd bylchiad da gan Angus O’Brien at sgôr o dan y pyst i Kieran Hardy.

Ar ôl creu’r trydydd cais, O’Brien ei hun a sgoriodd y pedwerydd, y maswr yn rhwygo trwy’r amddiffyn gyda rhediad gwych.

Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel, fe ychwanegodd Hardy ei ail ef a phumed ei dîm ddeuddeg munud o’r diwedd, yn rhedeg ar ysgwydd Corey Baldwin y tro hwn wrth i’r canolwr fylchu.

Halfpenny a gafodd y chweched, i ymestyn ei gyfanswm personol ef i 21 pwynt.

Roedd amser ar ôl i Julien Tisseron sgorio cais cysur i’r Ffrancwyr ond nid oedd unrhwy amheuaeth am y canlyniad, 46-5 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Scarlets yn ail yng ngrŵp 2, bedwar pwynt y tu ôl i Toulon a ry brig, gyda’r ddau dîm i wynebu ei gilydd yn Llanelli ym mis Ionawr.

.

Scarlets

Ceisiau: Ryan Conbeer 6’, Ryan Elias 48’, Kieran Hardy 51’, 69’, Angus O’Brien 57’, Leigh Halfpenny 76’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 50’, 52’, 58’, 70, 76’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 17’, 23’

.

Bayonne

Cais: Julien Tisseron 80’