Pau 34–29 Gleision
Bu rhaid i’r Gleision fodloni ar ddau bwynt bonws yn unig wrth iddynt deithio i’r Stade du Hameau i wynebu Pau yng Nghwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.
Cafodd y gêm ei gohirio oherwydd tywydd garw nos Wener, a’r tîm cartref a fanteisiodd ar y noson ychwanegol o gwsg i ennill gêm gyffrous.
Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan groesodd Owen Lane am gais cyntaf y gêm i’r Gleision ond ymatebodd Pau yn dda.
Roedd y Ffrancwyr ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais yr un i’r ddau brop, Mohamed Boughanmi a Geoffrey Moise.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gleision ym munudau olaf yr hanner wrth i Pau sgorio dau gais arall i sicrhau’r pwynt bonws cyn yr egwyl, y naill i Pierre Nueno a’r llall i Bastien Pourailly.
Ychwanegodd Baptiste Pesenti bumed cais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i’r Gleision orffen yn gryf.
Croesodd Hallam Amos toc cyn yr awr cyn chwarae’i ran mewn symudiad gwych a arweiniodd at ail gais Lane o’r gêm ychydig funudau’n ddiweddarach.
Cwblhaodd Lane ei hatric ddeuddeg munud o’r diwedd, yn casglu cic Matthew Morgan cyn curo’i ddyn sgorio o dan y pyst.
Rhoddodd hynny’r ymwelwyr yn ôl yn y gêm ond bu rhaid iddynt fodloni ar ail bwynt bonws yn y diwedd wrth i gic gosb hwyr Jason Tovey gau’r bwlch i bum pwynt, 34-29 y sgôr terfynol.
Mae’r Gleision yn aros yn ail yng ngrŵp 5 er gwaethaf y golled ac mae’r ddau bwynt bonws yn eu cadw o fewn cyrraedd i Gaerlŷr ar y brig, mae pum pwynt yn gwahanu’r ddau dîm cyn i’r Gleision deithio i Welford Road ym mis Ionawr.
.
Pau
Ceisiau: Mohamed Boughanmi 13’, Geoffrey Moise 17’, Pierre Nueno 33’, Bastien Pourailly 38’, Baptiste Pesenti 44’
Trosiadau: Tom Taylor 13’, 33’, 45’
Cic Gosb: Clovis Lebail 76’
Cardiau Melyn: Tom Taylor 54’, Lucas Pointud 56’, Giovanni Kueffner 80’
.
Gleision
Ceisiau: Owen Lane 5’, 64’, 68’, Hallam Amos 59’
Trosiadau: Jarrod Evans 6’, Jason Tovey 65’, 69’
Cic Gosb: Jason Tovey 80’