Bydd Lloyd Williams yn gwneud ei 200fed ymddangosiad i Gleision Caerdydd mewn gêm Guinness PRO14 yn erbyn Toyota Cheetahs ddydd Sadwrn (Tachwedd 9), am 5:15 yr hwyr yn y brifddinas.

Daeth y mewnwr drwy system academi’r Gleision ac fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Gleision yn ystod tymor 2009-10.

Dim ond Taufa’ao Filise sydd wedi chwarae mewn mwy o gemau i’r Gleision (255).

Canmoliaeth gan y prif hyfforddwr

Mae prif hyfforddwr Gleision Caerdydd John Milvihill wedi canmol Lloyd Williams am ei gyfraniad i’r tîm ar hyd y blynyddoedd.

“Mae chwarae mewn 200 o gemau yn gamp bersonol wych, ond beth sy’n anhygoel yw’r ffaith fod Lloyd wedi gwneud y cyfan gyda Gleision Caerdydd,” meddai John Milvihill.

“Mae o’n gosod esiampl wych i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn ogystal â’r chwaraewyr ifanc sydd yn ein carfan bresennol.”