Mae Warren Gatland yn dweud ei fod e’n teimlo rhyddhad ar ôl i dîm rygbi Cymru guro Ffrainc i gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd.

Roedden nhw ar eu hôl hi yn Oita ond fe lwyddon nhw i ennill o 20-19 ar ôl i’r clo Ffrengig Sebastien Vahaamahina weld cerdyn coch am ddefnydddio’i benelin ar Aaron Wainwright ar ôl 47 munud.

Bryd hynny, roedd Ffrainc ar y blaen o 19-10 ac yn edrych yn gyfforddus.

Ond cipiodd Cymru’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm wrth i Ross Moriarty, a gafodd ei anfon i’r cell cosb yn yr hanner cyntaf, groesi am gais a gafodd ei drosi gan Dan Biggar.

“Rydyn ni’n teimlo rhyddhad, dw i’n meddwl,” meddai’r prif hyfforddwr ar ddiwedd y gêm.

“A bod yn deg â Ffrainc, fe wnaethon nhw chwarae’n arbennig o dda heno.

“Sgorion nhw gwpwl o geisiau cynnar, daethon ni’n ôl iddi rywfaint a’r neges hanner amser oedd fod rhaid i ni sgorio nesaf.

“Roedden ni wedi gallu gwneud hynny ac roedd y cerdyn coch wedyn yn amlwg yn eithaf arwyddocaol.

“Ond y peth dw i’n falch ohono fe gyda’r bois hyn yw na wnaethon nhw roi’r gorau iddi.”