Mae Cymru’n wynebu brwydr galed i geisio cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd ar ôl ildio ceisiau cynnar a rhoi eu hunain dan bwysau.

Fel y gwnaethon nhw yn erbyn Fiji, fe gafodd Cymru eu dal gan redeg cry’ a phasio cyflym Ffrainc yn yr wyth munud cynta’.

Yn y cyfnod hwnnw, fe sgoriodd Ffrainc ddau gais – y cynta; gan yr ail reng Sébastien Vahaamahina    wrth yrru trosodd ar ôl pwysau ar linell Cymru.

Er fod Romain N’Tamack wedi methu’r gic, fe lwyddodd gyda throsiad hawdd i’r ail gais wedi i Charles Ollivon groesi o dan y pyst. Roedd hi’n 12-0.

Taro’n ôl

Roedd angen mawr am i Gymru arafu’r gêm a sefyldu patrymau ond pêl rydd a ddaeth â chais i’r rheng ôl Aaron Wainwright wrth iddo garlamu trwodd o’r 10 – ar ôl tacl gref gan Jake Ball.

Gyda throsiad gan Dan Biggar a chic gosb ar ôl i Ffrancwr fynd i mewn i ryc efo’i ysgwydd, roedd hi’n ymddangos bod Cymru ar y ffordd yn ôl. 12-10.

Er fod Cymru’n dechrau cael trefn, roedd Ffrainc yn parhau’n beryglus iawn gyda pheli rhydd ac fe ddaethon nhw’n agos eto.

Melyn i Moriarty

Wedyn, fe ddaeth trobwynt. Josh Navidi yn gorfod gadael a Ross Moriarty ymlaen yn rhif 8 ac, o fewn hanner munud, yn cael carden felen am dacl uchel, ac yntau’n ofni coch.

Fe wnaeth Ffrainc y gorau o’r fantais gyda deg munud o bwysau. Fe ddaeth cais a throsiad wrth i Virimi Vatakatawa groesi ar ôl pasio a dadlwytho slic yn y 22.

Fe wrthodon nhw gyfle am gais arall pan fethodd Romain N’Tamack gyda  chic gosb. Roedd Cymru’n lwcus i fynd i mewn efo’r bwlch yn ddim ond naw phwynt.

Bellalch, fe fydd angen ail hanner tebyg i’r un a drodd fwlch o 16 pwynt yn fuddugoliaeth yng ngêm y Chwech Gwlad eleni.