Mae Cymru wedi cael y gorau ar Ffiji yn y gêm ddiweddara’ yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Fe lwyddodd y crysau cochion i ennill eu lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth,  gyda’r fuddugoliaeth ddiweddara’ yn Oita.

Fe groesodd Josh Adams deirgwaith a sgorio hatric, tra bod Liam Williams wedi turio ar ddiwedd y gêm i dîm Warren Gatland. Roedd Rhys Patchell yn giciwr effeithiol a dibynadwy.

Ond fe gafodd James Davies ei gosbi â cherdyn melyn yn yr hanner cyntaf, a hynny am wrthod gadael sgarmes, ac fe fu’n rhaid iddo dreulio amser yn y gell gosb cyn cael dychwelyd i’r maes.