Zebre 28–52 Dreigiau

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth bwynt bonws wrth drechu’r Zebre yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Sgoriodd y Cymry saith cais i gyd wrth i’r Eidalwyr orffen y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn y Stadio Sergio Lanfranchi.

Dechreuodd Zebre ar dân gyda dau gais yn y chwarter awr cyntaf, un yr un i aelodau’r rheng ôl, Jacopo Bianchi a Giovanni Licata, 14-0 y sgôr wedi dau drosiad Michelangelo Biondelli.

Tarodd y Dreigiau yn ôl gyda chais cosb hanner ffordd trwy’r hanner, Will Talbot-Davies yn cael ei daclo yn yr awyr gan Charlie Walker, saith pwynt i’r Cymry a cherdyn melyn i Sais o Sebra.

Gyda’r Eidalwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg, dilynodd ail gais yn fuan wedyn, Rhodri Williams yn tirio wedi gwaith da Leon Brown.

Zebre a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny diolch i gais Josh Renton yn y munud olaf, 21-14 y sgôr ar yr hanner.

Daeth trobwynt y gêm yn eiliadau cyntaf yr ail hanner pan welodd Walker ail gerdyn melyn a cherdyn coch.

Deugain munud i’r Dreigiau achub y gêm yn erbyn pedwar dyn ar ddeg felly ac ni wnaethant wastraffu amser gan sicrhau’r pwynt bonws o fewn y deg munud cyntaf.

Croesodd Owen Jenkins am y trydydd cais wedi rhyng-gipiad cyn i rediad unigol nodweddiadol gan Jordan Williams arwain at y pedwerydd.

Llwyr reolodd y Cymry wedi hynny gan ychwanegu tri chais arall yn y deg munud olaf. Croesodd yr asgellwr, Jenkins, am ei ail ef cyn i’r rheng ôl ymuno yn yr hwyl gyda sgôr yr un i Taine Basham a Harrison Keddie.

Gorffennodd Sam Davies y gêm gyda phymtheg pwynt o’i droed wrth i’r Dreigiau groesi’r hanner cant, 28-52 y sgôr terfynol.

.

Zebre

Ceisiau: Jacopo Bianchi 9’, Giovanni Licata 13’, Josh Renton 40’, Cais Cosb 80’

Trosiadau: Michelangelo Biondelli 10’, 15’, 40’

Cardiau Melyn: Charlie Walker 20’, 41’

Cerdyn Coch: Charlie Walker 41’

 

.

Dreigiau

Ceisiau: Cais Cosb 20’, Rhodri Williams 23’, Owen Jenkins 44’, 70’, Jordan Williams 49’, Taine Basham 72’, Harrison Keddie 75’

Trosiadau: Sam Davies 24’, 45’, 50’, 71’, 73’, 76’

Cic Gosb: Sam Davies 65’

Cerdyn Melyn: Taine Basham 80’