Leinster 53–5 Gweilch

Croesodd Leinster am wyth cais wrth roi crasfa i’r Gweilch ar yr RDS yn y Guinness Pro14 nos Wener.

Roedd y Gwyddelod ar y blaen o 22-0 ar hanner amser diolch i gais yr un gan Fergus McFadden, Ronan Kelleher a Joe Tomane ynghyd â saith pwynt o droed Ross Byrne.

Cwblhaodd y bachwr cartref, Kelleher, ei hatric gyda dau gais arall yn gynnar yn yr ail hanner ac roedd y Gwyddelod ym mhell o gyrraedd y Gweilch.

Dilynodd tri chais arall, un yr un i Max Deegan, Harry Byrne a Michael Milne wrth i’r tîm cartref ymestyn eu mantais dros hanner can pwynt.

Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Luke Morgan i’r Gweilch ar noson i’w anghofio yn Nulyn.

.

Leinster

Ceisiau: Fergus McFadden 11’, Ronan Kelleher 15’, 43’, 50’, Joseph Tomane 33’, Max Deegan 55’, Harry Byrne 65’, Michael Milne 70’

Trosiadau: Ross Byrne 16’, 34’, 51’, 56’, Harry Byrne 71’

Ciciau Cosb: Ross Byrne 4’

.

Gwielch

Ceisiau: Luke Morgan 73’

Cerdyn Melyn: Gareth Evans 76’