“Ar ôl perfformiadau’r tymor diwethaf a’r ffordd mae Awstralia wedi bod yn chwarae yn ddiweddar, dwi’n ffyddiog iawn bod Cymru yn mynd i ennill,” meddai Iawn Evans o Fangor.

Tra bod Dylan Jones o Lanelli yn hapus gyda phenderfyniad Warren Gatland i beidio newid y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia: “Mi ddaru ni chwarae yn dda yn erbyn Georgia. Roedden ni’n glinigol iawn felly dwi’m yn gweld pwynt ceisio newid rhywbeth sydd heb dorri.”

Mae Aled Biston, sydd yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, yn rhoi ei ffydd yn amddiffyn Cymru.

“Mae ganddom ni amddiffyn cryf, felly cyn belled ein bod ni’n cario ’mlaen i chwarae yn dda dw i’n meddwl y gall Cymru fynd yr holl yng Nghwpan y Byd.”

Ond dyw Miall Roberts o’r Bala ddim môr ffydiog: “Yn anffodus dw i’m yn meddwl fod ganddo ni’r dyfnder yn y garfan o gymharu â timau fel De Affrica a Seland Newydd.

“Felly, na, dw i’m yn meddwl y curwn ni Gwpan y Byd ond faswn i’n synnu dim tasa ni’n cyrraedd y ffeinal.”