Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru, Caryl James, yn “hapus” gyda’r tîm mae Warren Gatland wedi ei ddewis i wynebu Awstralia ddydd Sul (Medi 29).

“Dw i’n hapus gyda’r tîm sydd wedi ei ddewis,” meddai. “Roeddwn i’n credu fod y rheng ôl yn wych yn erbyn Georgia.

“Byddwn i wedi hoffi gweld Owen Watkins yn dod fewn i’r canol yn lle Hadleigh Parkes o ystyried bod gyda fe anaf a dwi’n meddwl fod tipyn gyda Owen Watkins i ddangos i ni beth mae o’n gallu ei wneud.”

“Dim byd” yn stopio Cymru rhag mynd yr holl ffordd

Dywed Caryl James nad oes “dim byd” yn stopio Cymru rhag mynd yr holl fordd yng Nghwpan y Byd.

“Dw i’n credu fod y talent i gyd yna, mae’r paratoi wedi bod yn ardderchog ac mae gymaint o ddyfnder yn y tîm.

“Dw i’n teimlo mai hwn yw’r cyfle gorau iddyn nhw fynd yr holl ffordd a chyrraedd y rownd derfynol.”