Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru wedi canu clodydd y capten, Alun Wyn Jones, a fydd yn torri record dros y penwythnos.

Ef fydd y chwaraewyr a fydd wedi ennill y mwyaf o gapiau i Gymru pan fydd yn arwain ei dîm yn erbyn Awstralia ar dydd Sul (Medi 29).

Ac yn ôl Warren Gatland, mae tîm Cymru yn “lwcus iawn” i’w gael yn gapten.

“Mae’n gystadleuydd gwych,” meddai Warren Gatland. “Dydyn ni ddim wedi cael cymaint o gwffio ers iddo ddod yn gapten – a hynny, achos mai fo oedd yn dechrau’r rhan fwyaf ohonyn nhw!

“Dyna pa mor gystadleuol oedd o. Mae gan bobol sy’n cyrraedd y top yr awch a’r awydd i fod yn llwyddiannus. Ac mae’n bendant wedi gwneud hynny.”

Mi fydd wedi ennill 130 cap yn sgil y gêm yn Tokyo, gan dorri record Gethin Jenkins  y deiliad presennol.

Tîm Cymru

L Williams, North, Jonathan Davies, Parkes, Adams, Biggar, G Davies, Wyn Jones, Owens, Francis, Ball, Alun Wyn Jones (Capten), Wainwright, Tipuric, Navidi.

Ar y fainc

Smith, Dee, Lewis, Shingler, Moriarty, T Williams, Patchell, Watkin