Mae tîm rygbi Ffiji, sydd yn yr un grŵp â Chymru, gam yn nes at fynd allan o Gwpan Rygbi’r Byd ar ôl colli eu hail gêm yn olynol.

Fe greodd Wrwgwai sioc yn eu gêm gyntaf wrth guro’r tîm o Ynysoedd y De o 30-27, eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 2003.

Hon oedd y gêm gyntaf erioed yn stadiwm Kamaishi Recovery Memorial, a gafodd ei chodi fel cofeb i’r rhai fu farw yn y daeargryn a tswnami dinistriol yn y wlad yn 2011.

Er i Wrwgwai sgorio dau gais yn unig yng Nghwpan y Byd bedair blynedd yn ôl, roedden nhw eisoes wedi sgorio tri erbyn hanner amser yn yr ornest hon.

Roedd Ffiji wedi gwneud 12 newid i’r tîm a gollodd o 39-21 yn erbyn Awstralia yn y gêm gyntaf.