Mae Cory Hill allan o garfan Cwpan y Byd Cymru wedi iddo gael anaf.

Cafodd ei gynnwys yn y garfan i deithio i Japan ond nid yw wedi gallu gwella’n llwyr ers torri asgwrn ffibwla ei goes.

Bydd blaenwr y Gweilch, Bradley Davies sydd gyda 65 cap yn ymuno â’r garfan i gymryd lle Cory Hill.

“Mae Cory Hill wedi ei ryddhau o garfan Cwpan y Byd 2019 Cymru gan nad yw wedi gallu gwella o doriad i’w ffibwla,” meddai datganiad gan Undeb Rygbi Cymru.

“Bydd yn dychwelyd i Gymru a pharhau ei driniaeth gyda’i ranbarth.”

Roedd Cymru, oedd yn fuddugol o 43-13 yn erbyn Georgia ddydd Llun (Medi 23), yn obeithiol y byddai Cory Hill yn holliach ar gyfer eu gornest yn erbyn Awstralia dydd Sul nesaf.

Dyw clo arall Cymru, Adam Beard, ar y llaw arall ddim ond wedi cyrraedd Japan ers tridiau ar ôl iddo orfod tynnu ei bendics.