Mae Ken Owens yn dweud ei fod yn gobeithio sicrhau crys bachwr Cymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni.

Cafodd bachwr y Scarlets ei gynnwys fel eilydd yn y garfan ar gyfer y gystadleuaeth yn 2011 a 2015, gan fod yn drydydd dewis yn y naill ac yn ail ddewis yn y llall, a hynny’n bennaf oherwydd cyfres o anafiadau.

“Gobeithio y caf fi gyfle yn y Cwpan y Byd hwn i gael dechrau,” meddai’r Cymro Cymraeg 32 oed.

“Wrth fynd i mewn i 2011, ro’n i newydd gael anaf difrifol ac am fod nifer o’r bois eraill wedi cael anafiadau hefyd, ces i le yn y garfan, ac ro’n i’n falch o gael fy nghap cyntaf yng Nghwpan y Byd.

“Roedd hi’r un fath, fwy neu lai, yn 2015. Ro’n i wedi cael wyth neu naw mis allan gyda fy ngwddf eto.

“Gobeithio y galla i aros yn ffit a phrofi fy hun i’r garfan. Byddai’n beth enfawr i gyrraedd trydydd Cwpan y Byd.”