Ddiwrnod yn unig ar ôl i Simon King, prif hyfforddwr tîm rygbi Castell-nedd, gyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd, mae ei dîm cynorthwyol hefyd wedi dweud eu bod yn gadael y clwb.

Mae Paul Williams a Paul James, ynghyd â’r rheolwr Neil ‘Chalky’ White a Tom Ward, dyn y cit, wedi cyhoeddi neges ar wefan y clwb yn datgan eu cefnogaeth i’r cyn-brif hyfforddwr.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw hefyd yn “rhwystredig” ynghylch sefyllfa’r clwb oddi ar y cae.

Ganol yr wythnos, fe wrthododd y llys gais i ddirwyn y clwb i ben, am fod dyledion gwerth £31,000 heb eu datrys yn llawn.

Mae nifer o chwaraewyr wedi gadael y clwb gan nad ydyn nhw wedi cael eu talu, ac fe fu’r clwb yn dibynnu ar chwaraewyr ar fenthyg yn ddiweddar.

Datganiad

“Rydym yn ostyngedig yn sgil ymrwymiad ac ymroddiad y chwaraewyr sy’n weddill, ac yn teimlo’n flin iawn dros gefnogwyr ffyddlon Clwb Rygbi Castell-nedd dros gyfnod hir o amser,” meddai’r hyfforddwyr.

“Hoffem ddymuno’n dda i holl chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Rygbi Castell-nedd ar gyfer y dyfodol, ac rydym wir yn gobeithio y gall y clwb gwych hwn godi a herio unwaith eto.”

Ychwanega’r tîm eu bod yn gobeithio y bydd y chwaraewyr bellach yn gallu cael eu talu.

Ymateb y chwaraewyr

Mae Aaron Bramwell, capten y clwb, wedi cyhoeddi datganiad ar ran y chwaraewyr yn diolch i’r hyfforddwyr am eu gwaith ac i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Simon King, Paul James a Paul Williams am eu hymdrechion fel tîm hyfforddi, ynghyd â ‘Chalky’ fel rheolwr y tîm.

“Mae’r bois hyn wedi wynebu cryn frwydr ers i’r materion ddechrau gyda’r clwb, ac maen nhw wedi dangos arweiniad gwych o fewn y clwb o dan yr amgylchiadau anodd hyn.

“Fe fu’n gryn her i’r hyfforddwyr a ‘Chalky’ roi tîm ar y cae gyda dim ond 12 o chwaraewyr Castell-nedd yn gallu ymarfer a bod ar gael i’w dewis, ochr yn ochr â nifer o westeion sy’n chwarae ar drwydded bob wythnos.

“Yn olaf, diolch yn fawr i Tom, dyn y cit, sydd wedi edrych ar ein holau ni gystal.”

Dywed y bydd “colled fawr” ar eu holau yn y clwb.