Gallai tîm rygbi Cymru goroni’r “flwyddyn fwyaf i chwaraeon yng Nghymru” drwy ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a chystadlu’n gryf yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Mae’r tîm eisoes wedi ennill naw gêm o’r bron o dan Warren Gatland – eu perfformiad gorau ers ugain mlynedd – a llwyddo i ennill pob gêm yn yr hydref am y tro cyntaf erioed.
Ac fe all fod gwell i ddod, yn ôl un o fawrion y gêm.
“Gallai hon fod y flwyddyn fwyaf i chwaraeon yng Nghymru,” meddai Gareth Edwards.
“Gallwn ni gystadlu gyda’r goreuon ac rwy’n credu bod gyda ni’r bobol i siglo’r byd.
“Does dim angen i ni ofni neb oherwydd beth sydd wedi cael ei ddatblygu.
“Mae’r amddiffyn gwych yno i bawb gael ei weld a dyma, fwy na thebyg, y garfan orau gawson ni o’r top i’r gwaelod.
“Mae mwy o gysondeb ac mae’r fainc dipyn cryfach. Pan mae’r bois yn rhedeg ymlaen, dydych chi ddim yn ofni beth sy’n mynd i ddigwydd rhagor.”
Llwyddiant
Yn ystod yr hydref, llwyddodd Cymru i guro’r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica.
Eu buddugoliaeth dros Awstralia oedd y gyntaf mewn 14 o gemau.
“Mae beth gyflawnodd Cymru yn yr hydref wedi bod yn wych, ac wedi rhoi tipyn o hyder i ni,” meddai Gareth Edwards.
“Bydd y Chwe Gwlad yn fwy o brawf nawr, yn enwedig Lloegr ac Iwerddon.
“Ond bydd chwarae yn eu herbyn nhw yng Nghaerdydd yn fantais wych, a gobeithio y gallwn ni gael Chwe Gwlad wych cyn y prawf mwyaf un [Cwpan y Byd].”