Blaenasgellwyr fydd yn arwain dau o ranbarthau Cymru yn eu gêmau cynghrair cynta’ y tymor hwn – a’r ddau gartre’ nos Wener.

Justin Tipuric yw capten newydd y Gweilch, sy’n croesawu Caeredin, ac fe fydd Ellis James yn arwain Gleision Caerdydd gartre’ yn erbyn Leinster.

Fe fydd gan y Gweilch olwyr cyfarwydd …. i gefnogwyr y Scarlets, gyda phedwar o gyn-chwaraewyr y Sosban yn dechrau y tu ôl i’r sgrym – y mewnwr, Aled Davies, y cefnwr Dan Evans, yr asgellwr George North a’r canolwr Scott Williams.

Hon fydd gêmau cynta’ Aled Davies, Goerge North a Scott Williams ers dod i stadiwm y Liberty.

Tîm y Gweilch: 15 Dan Evans; 14 George North, 13 Scott Williams, 12 Owen Watkin, 11 Hanno Dirksen; 10 Luke Price, 9 Aled Davies; 1 Nicky Smith, 2 Scott Otten, 3 Tom Botha; 4 Bradley Davies, 5 Alun Wyn Jones; 6 Dan Lydiate. 7 Justin Tipuric (Capt), 8 James King.

Eilyddion: Scott Baldwin, Rhodri Jones, Alex Jeffries, Adam Beard, Sam Cross, Tom Habberfield, Sam Davies, Joe Thomas.

Prawf anodd i’r Gleision

Mae hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill, yn cydnabod y bydd ganddyn nhw brawf mawr o’u blaenau yn erbyn Leinster, pencampwry y Pro 14.

Ond mae’n dweud eu bod yn barod am yr her ar ôl ennill 11 o’u 13 gêm ola’ y tymor diwetha’.

Teexm y Gleision: 15 M Morgan; 14 J Harries, 13 W Halaholo, 12 R Lee-Lo, 11 O Lane; 10 J Evans, 9 L Williams; 1 B Thyer, 2 K Dacey, 3 D Arhip; 4 S Davies, 5 R Thornton; 6 J Turnbull, 7 E Jenkins, 8 N Williams.

Eilyddion: R Gill, E Lewis, S Andrews, G Earle, O Robinson, T Williams, S Shingler, G Smith.