Mae cadeirydd clwb rygbi rhanbarthol Gleision Caerdydd, Peter Thomas, yn rhoi’r gorau iddi.

Roedd y gŵr 75 oed yn arfer chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd yn y 1960au, a bu yn gadeirydd am yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mi fydd yn parhau’n aelod o Fwrdd Rheoli’r clwb, ac yn cael ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus.

“Braint”

 Dywedodd Peter Thomas: “Mae wedi bod yn fraint cael bod yn gadeirydd Clwb Rygbi Caerdydd a Gleision Caerdydd ers i rygbi rhanbarthol gael ei greu, ond dw i’n teimlo ei bod yn amser i gamu o’r neilltu.

“Mi fyddaf i’n parhau’n aelod o’r Bwrdd Rheoli, a dw i’n edrych ymlaen at gefnogi’r cadeirydd newydd, pwy bynnag y bydd hwnnw.

“Dw i’n hyderus yng nghynlluniau’r clwb, ac yn disgwyl ymlaen i weld y rhanbarth yn adeiladu ar y llwyddiant o ennill Cwpan Her Ewrop.”