Mae prif hyfforddwr tim rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud pum newid i’r tîm a fydd yn wynebu’r Ariannin unwaith eto dros y penwythnos.

Ellis Jenkins fydd yn dechrau’n flaenasgellwr pen agored y tro hwn, ac mae disgwyl rhywfaint o newid yn y rheng flaen wrth i Ryan Elias a Tomas Francis gamu i’r adwy.

Bydd Aled Davies yn cael dechrau ar y cae am y tro cynta’ ar y daith, ac mi fydd Owen Watkin yn dechrau’n ganolwr yn sgil anaf Hadleigh Parkes.

“Ar y trywydd iawn”

Dyma’r ail gêm mewn cyfres dwy gêm – mi gurodd Cymru’r Arianwyr dros y penwythnos gan 23 pwynt i 10 – ac mi fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (Mehefin 16) yn Santa Fe.

“Rydym am weld rhai chwaraewyr o’r dechrau, ac rydym am roi mwy o gyfle i’r chwaraewyr yna,” meddai Warren Gatland.

“O ystyried amcanion y daith yma, rydym ar y trywydd iawn. Rydym wedi ennill dwy gêm [gan gynnwys un yn erbyn De Affrica], ac rydym wedi rhoi cyfle i’r chwaraewyr brofi rygbi prawf.”