Bydd y chwaraewr rygbi, Liam Williams, yn colli gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 25) oherwydd anaf i’w abdomen.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru (WRU) cafodd y chwaraewr 26 oed ei anafu yn ystod gêm Georgia ddydd Sadwrn (Tachwedd 18).

Llwyddodd Liam Williams i beri tipyn o her i’r Crysau Duon yn ystod taith y Llewod, ac mae ei absenoldeb yn sicr o fod yn ergyd i dîm Cymru.

Bydd yr asgellwr Alex Cuthbert hefyd yn absennol dros y penwythnos, oherwydd anaf i’w goes. Dydy’r WRU ddim wedi datgelu pryd mae disgwyl i’r ddau ddychwelyd.