Dreigiau 23–18 Scarlets
Y Dreigiau aeth â hi wrth iddynt groeaswu’r Scarlets i Rodney Parade yn y Cwpan Eingl Gymreig nos Wener.
Roedd yr ymwelwyr o’r gorllewin ddeuddeg pwynt ar y blaen ar yr egwyl ond fe darodd y Dreigiau nôl i ennill y gêm gyda thri chais ail hanner.
Rhuthrodd Bois y Sosban ar y blaen gyda chais yr un i Tomi Lewis a Rhodri Jones yn y chwarter cyntaf cyn i Billy McBryde ac Arwel Roberts gyfnewid cic gosb yr un.
Sgoriodd Ellis Shipp, Dan Babos a Brok Harris dri chais mewn cyfnod o dri munud ar ddeg ar ddechrau’r ail hanner ac roedd y Dreigiau ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Rhoddodd cic gosb McBryde lygedyn o obaith i’r Scarlets cyn i Gavin Henson sicrhau’r fuddugoliaeth gyda thri phwynt hwyr i’r Dreigiau.
.
Dreigiau
Ceisiau: Ellis Shipp 43’, Dan Babos 50’, Brok Harris 56’
Trosiad: Arwel Robson 50’
Ciciau Cosb: Arwel Robson 29’, Gavin Henson 75’
.
Scarlets
Ceisiau: Tomi Lewis 16’, Rhodri Jones 18’
Trosiad: Billy McBryde 19’
Ciciau Cosb: Billy McBryde 40’, 68’
Cerdyn Melyn: Javan Sebastian 49’