Mae Ross Moriarty wedi cael anaf arall wrth geisio gwella o’r anaf a gafodd ar daith y Llewod yn Seland Newydd dros yr haf.

Dim ond unwaith mae’r chwaraewr rheng ôl wedi chwarae i Gaerloyw y tymor hwn ers anafu ei gefn yn ei unig gêm ar y daith.

Dydy hi ddim yn glir eto am byd hyd y bydd e allan y tro hwn ar ôl cael anaf wrth ymarfer gyda Chaerloyw, ac mae amheuon na fydd e ar gael ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Georgia ddydd Sadwrn (Tachwedd 18), Seland Newydd (Tachwedd 25) a De Affrica (Rhagfyr 2).

Doedd e ddim wedi’i gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref oherwydd yr anaf gwreiddiol.

Anafiadau

Mae Ross Moriarty ar restr anafiadau Cymru sydd hefyd yn cynnwys y capten Sam Warburton a’r blaenasgellwr Justin Tipuric.

Yn eu habsenoldeb, chwaraeodd Josh Navidi ac Aaron Shingler yn y golled yn erbyn Awstralia o 29-21 ddydd Sadwrn diwethaf.