Mike Phillips
Mae disgwyl i fewnwr Cymru, Mike Phillips, ymuno â chlwb Ffrengig Bayonne ar gytundeb dwy flynedd.

Mae gan Phillips flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb presennol â’r Gweilch, ond mae’r rhanbarth o Gymru eisoes wedi dweud y gallai adael pe bai yn dod o hyd i glwb newydd.

Dywedodd Scott Johnson bod Phillips yn awyddus i adael ers y tymor diwethaf, ac nad oedd am gadw unrhyw un nad oedd eisiau bod yn rhan o’r rhanbarth.

Mae Phillips wedi ei gysylltu â sawl clwb gan gynnwys Toulouse a’r Crusaders, ond mae disgwyl i’r Llew ymuno â Bayonne.

Roedd disgwyl i Bayonne arwyddo cyn-fewnwr Seland Newydd, Byron Kelleher, ond fe benderfynodd y clwb dynnu ‘nôl o’r cytundeb yr wythnos diwethaf.

Mae’r penderfyniad wedi agor y drws i Phillips i adael y Gweilch a symud i Ffrainc i geisio ail-danio ei yrfa.

Mae dau o gyn-sêr y Gweilch, James Hook a Lee Bynre, eisoes wedi gadael er mwyn ymuno â chlybiau yno.