Mae’r Dreigiau wedi cryfhau eu carfan ar gyfer y tymor nesaf drwy arwyddo Nathan Williams a Tom Brown.

Mae Williams, sy’n gyn brop â’r Scarlets, yn ymuno o Mosely tra bod yr wythwr Brown yn arwyddo oddi wrth y Gleision.

“Mae arwyddo’r ddau yma yn bwysig iawn i ni. Rydw i eisoes wedi gweithio gyda Tom gyda Chymry Llundain ac mae’n gyflym ac yn effeithiol wrth gario’r bêl,” meddai hyfforddwr blaenwyr y Dreigiau, Danny Wilson.

“Roedd yn anffodus iddo ddioddef anaf i’w ben-glin ar ôl ymuno gyda’r Gleision y llynedd – roedd hynny wedi ei atal ef rhag chwarae’n fwy cyson.”

Chwaraeodd Williams i’r Scarlets yn 2003 ac fe symudodd i Loegr i chwarae ei rygbi yn 2007 wedi cyfnodau gyda Llanelli ac Arberth.

“Mae Nathan yn dda yn y sgrym. Mae gan glwb Mosely enw da am reoli yn y sgrym ac mae Nathan wedi chwarae rhan bwysig yn eu llwyddiant,” meddai Danny Wilson.

“Fe fydd yn ychwanegu cystadleuaeth i’r rheng flaen ac wrth gwrs mae’n Gymro ac mae’n braf cael gweld un arall yn dod adref.”