Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi galw ar Gavin Henson i brofi ei fod yn haeddu lle yn sgwad Cwpan y Byd yn erbyn y Barbariaid.
Mae’r canolwr heb chwarae i Gymru ers Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009, ond mae Gatland wedi’i ddewis yn ei garfan 26 dyn ar gyfer y gêm brawf ar 4 Mehefin.
Fe gafodd Henson ei ddewis yng ngharfan Cymru er iddo gael ei wahardd gan ei glwb Toulon yn dilyn ffrae gyda rhai o’i gyd-chwaraewyr mis diwethaf.
Fe ddychwelodd Henson i’r garfan dros y penwythnos gan chwarae yng ngêm olaf Toulon o’r tymor yn erbyn Montpellier.
Mae Warren Gatland yn credu bod y gêm yn erbyn y Barbariaid yn gyfle i’r tîm hyfforddi ail ystyried Gavin Henson.
“Rwy’n credu bod Gavin yn ymwybodol fod y gêm yma’n gyfle iddo fynd i Gwpan y Byd. Os ydyn ni’n cael y gorau allan ohono, bydd hynny o les i Gymru,” meddai Warren Gatland.
“Mae Gavin yn broffesiynol wrth ymarfer gyda’r garfan. Mae wedi chwarae’n dda dros Gymru hefyd.
“Wrth ddewis carfan mae’n bosib cymryd risg a dewid rhywun sydd heb chwarae cymaint â hynny o gemau.
“Ond mae’n rhaid bod yn ofalus nad oes yna bedwar neu pum chwaraewr sydd heb chwarae’n gyson yn y garfan.
“Ond mae’n werth cymryd risg â Gavin a gweld a yw’n haeddu bod yn rhan o’r tîm unwaith eto.”