Mae tîm rygbi merched Cymru wedi cael gwybod y byddan nhw’n gorfod wynebu Seland Newydd yng Nghwpan y Byd 2017 yn Iwerddon.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Belffast y bore ma, a byddan nhw hefyd yn wynebu Canada a thîm o Asia/Ynysoedd y De.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Belffast a Dulyn o 9-26 Awst y flwyddyn nesaf. Yn ôl hyfforddwr y tîm, Rowland Phillips, bydd Seland Newydd yn barod amdani ar ôl Cwpan y Byd siomedig yn 2014.

“Dw i’n gyffrous oherwydd byddwn ni’n gallu profi ein hunain yn erbyn timau gwych y flwyddyn nesaf,” meddai.

“Rydyn ni yno gyda Seland Newydd, a fydd yn barod amdani ar ôl y Cwpan y Byd diwethaf, a Chanada, sydd wedi dod drwodd i fod yn un o’r timau merched cryfaf yn y byd.

“Rydyn ni wedi gosod targedau i ni’n hunain ac rydyn ni’n adeiladu ein hyder fel carfan.

“Byddwn ni’n barod ym mis Awst i gystadlu hyd eithaf ein gallu ac i ddangos ein safon fel cenedl.”

Ychwanegodd Pennaeth Perfformiad Rygbi Undeb Rygbi Cymru, Geraint John y gallai’r gystadleuaeth fod yn garreg gamu ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 2018, Cwpan y Byd yn 2021 a thu hwnt.