Ulster 29–8 Dreigiau
Cafodd y Dreigiau ddechrau anodd i’r tymor newydd yn y Guinness Pro12 wrth iddynt golli oddi cartref yn Ulster nos Wener.
Roedd hi wastad yn mynd i fod yn dasg anodd i’r Cymry yn Ravenhill ac er gwaethaf dechrau da gan yr ymwelwyr, y tîm cartref aeth â hi yn gyfforddus yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Rhoddodd cic gosb gynnar Nick Macleod ddechrau da i’r Dreigiau cyn i gais yr asgellwr, Pat Howard, ymestyn mantais yr ymwelwyr i wyth pwynt wedi deg munud o chwarae.
Dyna oedd yr uchafbwynt i’r Cymry yn anffodus wrth i Ulster a’i mewnwr dylanwadol o Dde Affrica, Ruan Pienaar, ddechrau rheoli pethau wedi hynny.
Cic Pienaar a ddaeth o hyd i Robert Lyttle wrth iddo ef sgorio cais cyntaf Ulster ac roedd y tîm cartref ar y blaen erbyn hanner amser diolch i gais cic-a-chwrs unigol Jacob Stockdale.
Ail Hanner
Roedd Pienaar yn ei chanol hi eto yn gynnar yn yr ail hanner yn taro cic ei gydwladwr, Carl Meyer, i lawr cyn tirio.
Sicrhaodd Lyttle y pwynt bonws chwarter awr o’r diwedd gyda’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm a chwblhaodd Rob Herring y sgorio yn y deg munud olaf gyda phumed y tîm cartref.
Buddugoliaeth gyfforddus i’r Gwyddelod yn y diwedd felly er gwaethaf dechrau addawol Gwŷr Gwent. Byddant yn gobeithio am gêm haws a chanlyniad gwell wrth groesawu Zebre i Rodney Parade nos Wener nesaf.
.
Ulster
Ceisiau: Robert Lyttle 21’, 65’, Jacob Stockdale 26’, Ruan Pienaar 43’, Rob Herring 71’
Trosiadau: Ruan Pienaar 22’, 72’
.
Dreigiau
Cais: Pat Howard 11’
Cic Gosb: Nick Macleod 5’