Mae Toby Booth, prif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Gweilch, wedi gadael ei swydd ar unwaith.
Roedd disgwyl iddo fe adael ar ddiwedd y tymor, gyda Mark Jones yn ei olynu, ond daw ei ymadawiad rai misoedd yn gynt na’r disgwyl.
Fe fu’n brif hyfforddwr ar y Gweilch ers 2020, gan arwain y rhanbarth i fuddugoliaeth yn Nharian Cymru’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) yn 2021-22 a 2023-24.
Cyrhaeddon nhw rownd wyth olaf Cwpan Her EPCR a gemau ail gyfle’r URC yn 2023-24 hefyd.
Mae’r Gweilch wedi diolch iddo fe am “ei ymroddiad a’i gyfraniadau”, gan ddymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.
Bydd tîm hyfforddi a rheoli presennol y Gweilch yn cynorthwyo Mark Jones.