Bydd saith newid i dîm rygbi menywod Cymru ar gyfer eu gêm yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (13 Tachwedd), o gymharu â’r tîm ddechreuodd yn erbyn Japan wythnos diwethaf.

Wedi’r fuddugoliaeth 23-5 yn erbyn Japan, roedd hi’n “bwysig gwobrwyo’r chwaraewyr gafodd ddylanwad” wrth ddod oddi ar y fainc, meddai’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham.

Bydd yna reng flaen newydd sbon, gyda Gwenllian Prys, Carys Phillips a Cerys Hale yn dechrau.

Fe fydd Georgia Evans yn symud i’r ail reng, ac Alisha Butchers yn dechrau fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll.

Tu ôl i’r sgrym, bydd Ffion Lewis yn dechrau fel mewnwr, Niamh Terry yn dechrau fel cefnwr, a Caitlin Lewis ar yr asgell chwith.

Dyma fydd y tro cyntaf i Carys Phillips, Ffion Lewis a Niamh Terry ddechrau mewn gêm ryngwladol ers mis Tachwedd 2019, a bydd Gwenllian Prys ac Alisha Butchers yn dechrau am y tro cyntaf ers chwarae yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth 2020.

“Gwobrwyo”

“Roedd hi’n bwysig gwobrwyo’r chwaraewyr gafodd ddylanwad wrth ddod oddi ar y fainc y penwythnos diwethaf gyda chyfle i ddechrau’r gêm hon,” meddai Ioan Cunningham, prif hyfforddwr y tîm.

“Rydyn ni hefyd wedi ystyried y bwlch amser byr rhwng chwarae nos Sul ac amser cinio dydd Sadwrn, o ystyried bod gennym ni Brawf arall yn erbyn Canada’r penwythnos nesaf.

“Mae Jazz Joyce i ffwrdd ar ddyletswyddau Tîm GB wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Dubai Sevens, ond mae hynny’n rhoi cyfle i Niamh Terry ddechrau ar ôl perfformio’n dda wrth hyfforddi ac yn erbyn Seland Newydd.

“Mae’r un yn wir am y chwaraewyr eraill sy’n dod mewn. Mae ein paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn ymwneud â’r garfan i gyd, mae yna gystadleuaeth dda yn ein grŵp a dw i’n hyderus mai’r chwaraewyr hyn yw’r rhai iawn ar gyfer yr heriau gwahanol y bydd De Affrica yn eu hachosi, yn enwedig y frwydr gorfforol.

“Rydyn ni’n hapus gyda’r perfformiad a’r fuddugoliaeth yn erbyn Japan ond mae hi’n bwysig atgyfnerthu hynny’r wythnos hon, a dyna rydyn ni wedi bod yn gweithio arno.

“Rydyn ni angen addasu i steil wahanol gan ein gwrthwynebwyr, ond rhoi stamp ein hunain ar y gêm hefyd, fel y gwnaethon ni’r wythnos ddiwethaf.”

Bydd y gêm yn dechrau ym Mharc yr Arfau Caerdydd, am 12:15yh brynhawn Sadwrn, 13 Tachwedd.

Y tîm:

Niamh Terry (Exeter Chiefs); Lisa Neumann (Sale Sharks), Hannah Jones (Caerloyw-Hartpury), Kerin Lake (Caerloyw-Hartpury), Caitlin Lewis (Caerloyw-Hartpury); Elinor Snowsill (Bristol Bears), Ffion Lewis (Worcester Warriors); Gwenllian Pyrs (Sale Sharks), Carys Phillips (Worcester Warriors), Cerys Hale (Caerloyw-Hartpury), Natalia John (Bristol Bears), Georgia Evans (Saracens), Alisha Butchers (Bristol Bears), Bethan Lewis (Caerloyw-Hartpury), Siwan Lillicrap (Capten, Bristol Bears)

Ar y fainc:

Kat Evans (Saracens), Caryl Thomas (Worcester Warriors), Donna Rose (Saracens), Gwen Crabb (Caerloyw-Hartpury), Alex Callender (Worcester Warriors), Keira Bevan (Bristol Bears), Robyn Wilkins (Caerloyw-Hartpury), Megan Webb (Bristol Bears)