Bydd y chwaraewr rygbi Teleri Wyn Davies yn dechrau am y tro cyntaf i Gymru yn erbyn Ffrainc nos yfory, cyfle sy’n golygu cymaint i’w theulu cyfan.

Cafodd bywyd teuluol Teleri ei “chwalu’n ddarnau” pan ddioddefodd ei thad, Bryan ‘Yogi’ Davies o’r Bala, anaf ddifrifol pan dorrodd ei wddf a’i adael wedi’i barlysu wedi i sgrym ddymchwel yn ystod ei gêm olaf un i glwb rygbi y Bala yn ôl yn 2007.

Treuliodd ddwy flynedd yn yr ysbyty yn Southport cyn dod adref i gartref oedd wedi ei addasu’n arbennig ar ei gyfer, diolch i apêl a gododd dros £200,000.

Yn 2009 cyhoeddodd lyfr o’r enw Mewn Deg Eiliad. Bu farw Bryan yn ei gartref yn y Bala yn 2013 yn 56 oed gan adael gwraig, Susan, a’i blant Ilan a Teleri, y ddau yn chwaraewyr rygbi.

Tra roedd Teleri yn ei arddegau datgelodd ei thad wrthi mewn sgwrs os y byddai yn cael gwneud un peth eto y byddai’n dychwelyd i chwarae’r gêm yr oedd yn ei hoffi gymaint, er gwaethaf y ddamwain. Felly, penderfynodd Teleri hithau ddychwelyd i chwarae rygbi, gêm a fwynhaodd cyn y ddamwain i’w thad annwyl.

Cap cyntaf

Chwaraeodd Teleri fel capten tîm merched Caernarfon ac fel hyfforddwr tîm merched yn y Bala.

Ar ôl marwolaeth Bryan, cwblhaodd y gwaith yr oedd ei thad wedi ei ddechrau sef adeiladu estyniad i glwb y Bala fel y gallai’r plant rannu pryd o fwyd gyda’i gilydd ar ôl gêmau.

Dywedodd Teleri mae’r foment mwyaf balch iddi hyd yma oedd dod oddi ar y fainc ym Mharc Eirias, Bae Colwyn i ennill ei chap cyntaf i Gymru yn yr ail reng – a’i hunig gap hyd yma – yn erbyn yr Alban yn 2018.

Meddai Teleri wrth Liz Jones o Undeb Rygbi Cymru: “Roedd hynny’n anrhydedd a braint enfawr yn enwedig oherwydd yr hyn oedd wedi digwydd gyda fy nhad. Yn y bôn, cefais y gogledd i gyd yn fy nghefnogi felly roedd hynny’n anhygoel.”

Ond nid dyna oedd diwedd gyrfa ryngwladol Teleri.

Yn y stod y cyfnod clo penderfynodd ei fod am barhau a’i nod i gynryhchioli Cymru.

Breuddwyd

Meddai: “Breuddwyd fy nhad oedd i ddechrau ac rwyf am barhau â’i etifeddiaeth, ei enw os dymunwch. Dyna sy’n fy ngwthio pan fydda i’n teimlo’n isel neu os yw’r amseroedd yn anodd. Dyna fy ‘Pam’. Dwi’n teimlo agosaf at fy nhad pan dwi’n chwarae rygbi. Fodd bynnag, ar hyn o bryd ni fyddwn yma oni bai am fy mreuddwyd hefyd. Sylweddolais hynny yn ystod y cyfyngiadau clo cyntaf a phenderfynais fy mod am fynd â rygbi ymhellach.

“Cefais alwad gan hyfforddwr Sale Sharks Darren Lamon a dyna’r cymhelliad oedd ei angen arnaf. Roedd yn golygu bod rhaid i mi gamu lawr fel capten Caernarfon ond mae’n rhywbeth roedd angen i mi ei wneud ac rwy’n ei garu. Mae cael yr alwad i ail-ymuno â charfan Cymru mor fuan yn anhygoel ac mae bod yn y XV sy’n dechrau yn erbyn Ffrainc yn swreal mewn gwirionedd, roeddwn i eisiau sgrechian pan gyhoeddwyd y tîm! Mae’n gyfle y byddaf yn ei gymryd gyda’m dwy law.”

Mae Teleri, sy’n gyfreithiwr dan hyfforddiant yn y Bala ar ôl ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan Brifysgol Bangor, yn dweud bod ei theulu wedi bod gyda hi bob cam o’r ffordd. “Rwyf wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy nheulu a’m ffrindiau. Dydw i ddim yn gwybod sut mae fy mam yn fy ngwylio’n chwarae ar ôl colli ei gŵr yn y ffordd y gwnaeth. Ond mae hi’n gwybod faint mae’n ei olygu i mi a fy mod i’n ei wneud i dad felly mae hi wedi rhoi ei chefnogaeth lawn i mi. Yr un peth gyda fy mrawd a’m neiniau a theidiau.”

Mae disgwyl y bydd Gogledd Cymru gyfan yn cefnogi Teleri y penwythnos hwn.

“Dwi jyst eisiau parhau i herio fy hun a mwynhau fy rygbi. Rydyn ni i gyd wedi bod yn chwarae gyda ac yn erbyn rhai o’r chwaraewyr benywaidd gorau yn y wlad yn Uwch Gynghrair Allianz 15s ac mae fy gêm wedi datblygu cymaint ers dechrau’r tymor. Mae’n gyffrous gweld i ble y gallwn fynd o’r fan hon.”

Bydd y gêm sy’n dechrau am 8yh yma yfory i’w gweld ar y BBC.