Mae chwaraewyr rygbi Cymru yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall cerdyn coch ei chael ar gemau a chanlyniadau, yn ôl Jonathan Humphreys, hyfforddwr blaenwyr Cymru.

Ond mae hefyd yn cydnabod nad yw’n syndod iddo fod cynnydd wedi bod yn y nifer o gardiau coch mae dyfarnwyr yn eu rhoi mewn gemau yn ddiweddar.

Yn ystod dwy gêm gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni, bu rhaid i Iwerddon a’r Alban chwarae â 14 dyn ar ôl i Peter O’Mahony a Zander Fagerson gael eu danfon o’r cae.

“Roedden ni wedi cael y sgwrs honno [am gardiau coch] cyn dechrau’r twrnamaint,” meddai Jonathan Humphreys.

“Rydym yn ymwybodol iawn fod unrhyw gyswllt â’r pen yn peri risg uchel o gardiau coch.

“Mae’n rhaid i ni barhau i atgoffa chwaraewyr o’r goblygiadau ac rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod cystal ag y gallwn fod yn dechnegol.”

‘Clampio lawr ar y troseddau’

Yn ôl hyfforddwr y blaenwyr, cafodd pob gwlad eu cynghori ar ddechrau’r bencampwriaeth y byddai dyfarnwyr yn llym iawn gydag unrhyw gyswllt â’r pen eleni.

“Dyma beth y cawsom ein cynghori arno ar ddechrau’r twrnamaint,” meddai.

“Mae’r dyfarnwyr yn edrych am y troseddau hyn ac yn amwg yn ceisio clampio i lawr arno.

“Nid yw’n syndod mawr i mi ein bod wedi gweld cynnydd mewn cardiau, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ni sy’n derbyn rhai.”

Yn ogystal â’r ddwy garden goch yn y Chwe Gwlad, cafodd pum carden goch eu dangos i chwaraewyr yn Uwch Gynghrhair Lloegr dros y penwythnos hefyd.

‘Her enfawr’

Wrth edrych ymlaen at wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn mae’n cydnabod fod Cymru’n wynebu “her enfawr”.

“Mae Lloegr yn dîm o’r radd flaenaf, ychydig fisoedd sydd ers iddyn nhw ennill y Chwe Gwlad a Chwpan Cenhedlodd yr Hydref,” meddai.

“Mae’n gêm brawf enfawr, rydym yn disgwyl her enfawr a bydd Lloegr ar eu gorau.”

Cadarnhaodd fod Josh Navidi, Johnny Williams a Jonathan Davies yn ymarfer yn llawn eto.

Mae’r mewnwr Tomos Williams yn ôl ar ei draed ac yn hyfforddi ar ôl anafu llinyn y gâr – ond fydd e ar gael i chwarae yn erbyn Lloegr.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Leigh Halfpenny ar gael, gyda’r cefnwr yn dal i gael ei asesu ar ôl gadael y cae gyda chyfergyd yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban.

Cymru v Lloegr ar S4C brynhawn dydd Sadwrn gyda’r gic gyntaf am 4.45.

 

Gwahardd prop yr Alban am drosedd cerdyn coch ar Wyn Jones

Mae Zander Fagerson allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl cael ei yrru o’r cae yn erbyn Cymru

Blaenasgellwr Iwerddon wedi ei wahardd am dair gêm am drosedd cerdyn coch yn erbyn Cymru

Oherwydd ei ymddygiad blaenorol, cafodd gwaharddiad Peter O Mahony ei haneru a bydd ar gael i wynebu Lloegr ar benwythnos olaf y bencampwriaeth