Fe wnaeth y mewnwr Rhys Webb serennu i’r Gweilch neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 20), wrth iddyn nhw guro Zebre o 10-0 yn y PRO14 yn Stadiwm Liberty.

Fe wnaeth y gwynt a’r glaw darfu cryn dipyn ar y gêm, gan arwain at gamgymeriadau lu gan y ddau dîm.

Ciciodd Josh Thomas gic gosb cyn i Webb, a gafodd ei enwi’n seren y gêm, groesi am gais hwyr gyda Thomas yn ei drosi, ac yntau’n chwarae yn lle Stephen Myler yn safle’r maswr.

Fe wnaeth Antonio Rizzi, maswr Zebre, fethu â chic at y pyst ac fe wnaeth ei dîm wastraffu sawl cyfle i sgorio, gan gynnwys Michelangelo Biondelli, oedd wedi gollwng pàs wrth fylchu.

Roedd y gêm yn frith o gamgymeriadau a throseddau, ond bydd y Gweilch yn falch eu bod nhw wedi osgoi diodde’r dwbwl yn erbyn yr Eidalwyr y tymor hwn.