Mae canolwr Cymru Jamie Roberts mewn trafodaethau â’r Dreigiau i ddychwelyd i rygbi rhanbarthol ar ôl saith mlynedd.
Gadawodd Jamie Roberts, 33, Gleision Caerdydd yn 2013, gan ymuno â Racing 92 yn Ffrainc, ac ers hynny mae o wedi chwarae i’r Harlequins, Caerfaddon a Stormers yn Ne Affrica.
Mae gan Jamie Roberts 94 cap dros Gymru, gyda’r diwethaf yn dod yn Nhachwedd 2017.
Ar ben hynny, mae o wedi ennill tri chap i’r Llewod.
Mae’n debyg ei fod yn ystyried ei opsiynau, er bod sôn y byddai’n awyddus i chwarae gyda chanolwr Cymru Nick Tompkins, sydd wedi ymuno â’r Dreigiau ar fenthyg o’r Saraceniaid.
Yn y cyfamser, mae Rhodri Williams, Tavis Knoyle, Josh Lewis, Jordan Williams, Will Talbot-Davies, Owen Jenkins, Rio Dyer, Arwel Robson and Dafydd Howells wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r Dreigiau.