Mae clwb rygbi Northampton wedi cadarnhau y bydd maswr Cymru Dan Biggar yn aros gyda’r clwb tu hwnt i’r tymor hwn.

Dywed y clwb fod Dan Biggar yn un o 19 chwaraewyr sydd wedi cytuno i aros, gan gynnwys chwaraewr Lloegr Courtney Lawes.

Mae pum chwaraewr rhyngwladol arall wedi cytuno ar gytundebau newydd gyda’r clwb, sef Lewis Ludlam, Teimana Harrison, Piers Francis, George Furbank a chanolwr yr Alban Rory Hutchinson.

Mae Dan Biggar wedi bod gyda Northampton ers 2018.

“Mae cysylltiad a chydweithrediad ein chwaraewyr i gefnogi’r clwb yn y tymor hir wedi bod yn bleser i’w weld,” meddai Chris Boyd, cyfarwyddwr rygbi Northampton.

“Rydym yn credu bod gennym y chwaraewyr i gystadlu ar lefel uchaf rygbi Lloegr ac Ewrop, ac i herio  am bob tlws sydd ar gael i ni”.