George Earle (Llun: Scarlets)
Mae clo’r Scarlets, George Earle, wedi cyhoeddi ei fod yn ymestyn ei gytundeb gyda’r rhanbarth.

Dyw’r Scarlets heb gadarnhau pa mor hir y bydd y chwaraewr 28 oed yn aros Llanelli, ond fe ddywedodd Earle fod ef a’i deulu bellach wedi setlo yn yr ardal.

Bydd y gŵr o Dde Affrica yn gymwys i chwarae dros Gymru’r haf hwn, ar ôl treulio tair blynedd yn byw yma ers arwyddo o dîm y Cheetahs yn 2012.

‘Penderfyniad hawsaf fy mywyd’

Yn ogystal â chwarae, mae George Earle wedi dechrau hyfforddi chwaraewyr ieuenctid y rhanbarth yn ddiweddar.

Ac fe ddywedodd bod dim amheuaeth y byddai’n aros gyda’r Scarlets pan gafodd gynnig y cytundeb newydd.

“Rydw i wedi bod o gwmpas tipyn o dimau ond dw i’n teimlo fel mod i’n perthyn yn fan hyn,” meddai Earle.

“Penderfyniad hawsaf fy mywyd oedd ymestyn fy nghytundeb i yma. Efallai ein bod ni wedi cymryd cam yn ôl y tymor yma ond dros y ddau neu dri thymor diwethaf dw i’n teimlo ein bod ni wedi gwell fel carfan.

“Dw i’n teimlo ein bod ni’n agos iawn at dorri drwyddo a dw i eisiau bod yn rhan o hynny.”