Mae’r anaf a ddioddefodd y clo De Kock Steenkamp i’w dendon achilles yn golygu na fydd yn medru chwarae i’r Gweilch hyd nes y flwyddyn newydd, ond ni fydd angen llawdriniaeth arno.
Fe gafodd y clo o Dde Affrica’r anaf o fewn wythnos o gyrraedd rhanbarth y Gweilch.
Meddai Rheolwr Perfformiad Meddygol y RhanbarthChris Towers: ‘‘Fe wnaeth De Kock ddioddef anaf pur ddrwg ond ni fydd angen llawdriniaeth arno. Mae’n debyg y bydd allan o’r gêm am tua chwe mis ond fe ddylai wella’n llwyr.’’